Dangosiadau wedi eu cadarnhau (cyhoeddir rhagor o ddigwyddiadau drwy gydol 2022).
Cellb, Blaenau Ffestiniog
10-12 a 17-19 Mehefin 2022 (i’w gadarnhau)
Fe fydd Gŵyl Ffilm y Chwarel yn cynnwys dau benwythnos o weithgareddau ar thema chwarel/llechi yn cynnwys dangosiadau ffilm, trafodaethau a gweithdai crefft llechi i bobl ifanc creadigol (fel hollti llechi). Cynhelir panel trafodaeth cymdeithas hanesyddol gyda’r grŵp ieuenctid Clwb Clinc a sgwrs panel gyda chwarelwyr fu’n gweithio yn y chwareli. Fe fydd themâu yn cynnwys teuluoedd y Penrhyn a Pennant a’u cysylltiadau gyda chaethwasiaeth a chwestiwn o ‘pwy sydd ar goll’ pan fyddwn yn meddwl am bobl a lleoedd yn gysylltiedig gyda chwareli llechi.
Cerddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE, Bae Colwyn
9 Mai 2022 (i’w gadarnhau)
Fe fydd ffilmiau archif byr yn cael eu dangos ochr yn ochr gyda thrafodaeth panel y Stori Gyflawn a sgwrs yn dilyn y dangosiad gyda Dr Marian Gwyn - ymgynghorydd treftadaeth yn arbenigo yn y fasnach caethwasiaeth a gwladychiaeth. Gan ddefnyddip’r pecyn adnoddau To o Lechi fe fydd TAPE yn edrych ar y syniad ‘pwy sydd ar goll?’ o straeon sgrin o amgylch llechi cyn arwain gweithdai lle bydd cyfranogwyr yn cynhyrchu gwaith celf llechi mewn ymateb i’r pynciau a godwyd. Caiff y gwaith ei arddangos yn oriel TAPE o 27 Mai, ochr yn ochr gyda ffilm fer o’r darnau gorffenedig.
Aberystwyth Arts Centre
Mehefin / Gorffennaf (i’w gadarnhau)
Trwy sgyrsiau a dangosiadau ffilm, gan gynnwys ffilmiau byrion archif o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn amlygu agweddau ar fwyngloddio llechi yng Nghymru sydd yn draddodiadol wedi bod yn absennol o’r naratifau sy’n ymwneud â hanes llechi yng Nghymru.
Off Y Grid
Dyddiad i’w gadarnhau
Rhwydwaith ydy Off Y Grid o 7 lleoliad ar draws Gogledd Cymru sydd yn cydweithio ar weithgareddau fforddiadwy drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo ffilmiau annibynnol a diwylliant byd-eang i gynulleidfaoedd gwledig yn eu sinema annibynnol leol. Fe fyddan nhw yn cydweithredu ar fenter ar y cyd gan gynnwys hanesydd lleol i roi cyd-destun i’r casgliad o ffilmiau.
Theatr y Ddraig, y Bermo
Dydd Sul 26 Mehefin 2022 (TBC)
Fe fydd y theatr yn dangos Y Chwarelwr, y ffilm siarad gyntaf erioed yn Gymraeg, yn dilyn bywyd chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog. Yna fe fydd ffilm ddogfen fer hefyd, ‘O’r Graig’ am y diwylliant llechi yng Ngogledd Cymru a sesiwn holi ac ateb gyda siaradwr gwadd arbennig.