To Llechi ar gyfer Pob Tŷ’: Yn dod i sinemau Cymru yn 2022.

Slate Quarrying © Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dydd Mercher, 20 Ebrill 2022
Mae tymor ffilm newydd gan linyn Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru o’r enw ‘To Llechi ar gyfer Pob Tŷ’ yn dod i sinemau yn 2022.
Fe fydd y daith yn dathlu statws treftadaeth y byd UNESCO tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru gan roi cyfle i gynulleidfaoedd Cymru ddysgu am y cysylltiadau llai adnabyddus Cymru gyda’r Fasanach Caethwasiaeth Atlantig.

Gydag Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae Canolfan Ffilm Cymru wedi datblygu rhaglen deithiol o ffilmiau archif a ffilmiau Cymreig yn amlygu hanes y chwareli yng Nghymru, ei effaith ar gymunedai a chysylltiadau gyda phrosiectau trefedigaethol ehangach dan arweiniad yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae’r pecyn yn cynnwys amrediad o ffilmiau o Slate Quarrying (1946) sydd yn darlunio bywyd gwaith yn Chwrael y Penrhyn, 1200 troedfedd o ddyfnder, ym Methesda i Cut Me Loose (1998), ffilm bersonol a ysgrifenwyd ac a gyflwynwyd gan y bardd rap a’r hanesydd David Brown, o dras cymysg Du Jamaicaidd a Gwyn Cymreig.

Datblygwyd y prosiect yn dilyn cyhoeddiad ym mis Gorffennaf 2021 bod statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO wedi ei roi i dirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:   

‘‘Mae cyhoeddiad treftadaeth y byd UNESCO yn arwyddocaol i Gymru. Mae’n rhoi cyfle anhygoel i ddathlu ei hanes balch o chwareli llechi ar y sgrin drwy gasgliad diddorol o ffilmiau. Mae’n hanfodol hefyd ein bod yn edrych yn ddyfnach ac rhoi cyd-destun i straeon llai adnabyddus o ran llafur y dosbarth gweithiol a’r Fasnach Gaethwasiaeth Atlantig. Mae’r daith yn rhoi cyfle i gynuylleidfaoedd ddarganfod elfennau o ddiwylliant Cymreig sydd yn sylfaenol i bwy ydyn ni.”

Roedd chwareli llechi Gogledd Cymru yn gysylltiedig hefyd gyda hanes mwy treisgar gan fod llawer o gyfoeth y perchnogion caethweision fel yr Arglwydd Penrhyn, wedi ei ddefnyddio i ehangu’r chwareli a hyd yn oed adeiladu rhai trefi a dinasoedd yng Nghymru. Bwriad y tymor ydy edrych ar sefyllfa gymhleth Cymru fel aelod trefedigaethol ac un a elwodd o’r cyfoeth a grewyd gan yr Ymerodraeth Brydeinig drwy gynhyrrchu llechi.

I lansio’r sgwrs mae Canolfan Ffilm Cymru hefyd wedi dwyn ynghyd banel o siaradwyr arbenigol, Yvonne Connikie (curadydd ffilm), Abu-Bakr Madden Al Shabazz (hanesydd ac anthropolegydd diwylliannol), Charlotte Williams (awdur Sugar and Slate) ac Emlyn Roberts (cyn chwarelwr). Gall cynulleidfaoedd wrando ar y sgyrsiau yn y sinemau sydd yn cymryd rhan

Mae AbuBakr yn esbonio pwysigrwydd delio gyda hanes Cymru ar y sgrin

"Mae gweld hanes Cymru ar y sgrin yn dangos y cyfoeth sydd gan orffennol y genedl yma ar ei datblygiad cymdeithasol a gwleidyddol yn yr 21ain ganrif. Mae gan Gymru fel cenedl a hanes Cymru fel pwnc, hen gymdeithas amlddwylliannol oherwydd ei chysylltiadau gyda masnach cyn ac yn ystod diwydianeiddio. Fe fydd darlunio dimensiwn amlddiwylliannol cymdeithas Gymreig yn cynnal cywirdeb wrth gofnodi ein gorffennol, gan ddangos cynhwysiant ein cenedl fodern a’r hyn y mae’r holl grwpiau wedi ei gyfrannu dros amser." 

Mae sinemau ar draws Cymru yn bwriadu cynnal gweithgareddau thema ar hyd y flwyddyn. Ym Mlaenau Ffestiniogm cartref i Chwarel Llechwedd, mae CELLb yn bwriadu cynnal penwythnosau Gŵyl Ffilm Chwarel gyda 2 benwythnos o weithgareddau ar y thema llechi. Fe fyddan nhw yn cysylltu cynulleidfoaedd gyda chwarelwyr oedd yn gweithio yn y chwareli ac yn cynnal sgyrsiau am deuluoedd y Penrhyn a Pennant a’u cysylltiadau gyda chaethwasiaeth.

Ychwanegodd Iola Baines, Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 

‘‘Mae’r Archif yn gweithio’n galed i sicrhau bod cynulleidfaoedd Cymreig o bob oed yn gallu cael mynediad i’w treftadaeth sgrin. Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda Chanolfan Ffilm Cymru i ddod â ‘To o Lechi i bob Tŷ’ yn fyw – o’r ffilmiau archif byr yn dangos bywydau chwarelwyr i’r ‘Chwarelwr’ (y ffilm siarad Gymraeg gyntaf erioed) a ffilmiau dogfen yn cysylltu llechi a gwladychiaeth. Mae’r ffilmiau yma yn amlygu pwysigrwydd pobl, lleoedd a digwyddiadau Cymru na ddylid fyth eu anghofio. Mae ffilmiau archif Cymreig yn cynnwys ein gorffennol a’n dyfodol – dyma sut y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu cael mynediad i’w diwylliant a’u hanes. Mae’n hanfodol bod ein gwaith yn parhau i gael ei gefnogi a’i fod yn hygyrch i’r cyhoedd drwy sinemau .’'

Gall cynulleidfaoedd dderbgyn y newyddion diweddaraf am ffilmiau i ddod ar wefan adran Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru neu trwy ddilyn @FilmHubWales ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn derbyn cyllid gan Creative Wales a chyllid y Loteri Cenedlaethol drwy Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI DU gyfan. Fel rhan o FAN, mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn. Gweninyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm. CaIff dros £30M ei godi bob wythnos i achosion da ar draws y DU gan y Loteri Cenedlaethol.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma.

-DIWEDD-

Dangosiadau wedi eu cadarnhau (cyhoeddir rhagor o ddigwyddiadau drwy gydol 2022).

Cellb, Blaenau Ffestiniog
10-12 a 17-19 Mehefin 2022 (i’w gadarnhau)

Fe fydd Gŵyl Ffilm y Chwarel yn cynnwys dau benwythnos o weithgareddau ar thema chwarel/llechi yn cynnwys dangosiadau ffilm, trafodaethau a gweithdai crefft llechi i bobl ifanc creadigol (fel hollti llechi). Cynhelir panel trafodaeth cymdeithas hanesyddol gyda’r grŵp ieuenctid Clwb Clinc a sgwrs panel gyda chwarelwyr fu’n gweithio yn y chwareli. Fe fydd themâu yn cynnwys teuluoedd y Penrhyn a Pennant a’u cysylltiadau gyda chaethwasiaeth a chwestiwn o ‘pwy sydd ar goll’ pan fyddwn yn meddwl am bobl a lleoedd yn gysylltiedig gyda chwareli llechi.

Cerddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE, Bae Colwyn
9 Mai 2022 (i’w gadarnhau) 

Fe fydd ffilmiau archif byr yn cael eu dangos ochr yn ochr gyda thrafodaeth panel y Stori Gyflawn a sgwrs yn dilyn y dangosiad gyda Dr Marian Gwyn - ymgynghorydd treftadaeth yn arbenigo yn y fasnach caethwasiaeth a gwladychiaeth. Gan ddefnyddip’r pecyn adnoddau To o Lechi fe fydd TAPE yn edrych ar y syniad ‘pwy sydd ar goll?’ o straeon sgrin o amgylch llechi cyn arwain gweithdai lle bydd cyfranogwyr yn cynhyrchu gwaith celf llechi mewn ymateb i’r pynciau a godwyd. Caiff y gwaith ei arddangos yn oriel TAPE o 27 Mai, ochr yn ochr gyda ffilm fer o’r darnau gorffenedig.

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth
Mehefin / Gorffennaf (i’w gadarnhau)

Trwy sgyrsiau a dangosiadau ffilm, gan gynnwys ffilmiau byrion archif o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn amlygu agweddau ar fwyngloddio llechi yng Nghymru sydd yn draddodiadol wedi bod yn absennol o’r naratifau sy’n ymwneud â hanes llechi yng Nghymru.

Off Y Grid
Dyddiad i’w gadarnhau
Rhwydwaith ydy Off Y Grid o 7 lleoliad ar draws Gogledd Cymru sydd yn cydweithio ar weithgareddau fforddiadwy drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo ffilmiau annibynnol a diwylliant byd-eang i gynulleidfaoedd gwledig yn eu sinema annibynnol leol. Fe fyddan nhw yn cydweithredu ar fenter ar y cyd gan gynnwys hanesydd lleol i roi cyd-destun i’r casgliad o ffilmiau.

Theatr y Ddraig, y Bermo
Dydd Sul 26 Mehefin 2022 (TBC)

Fe fydd y theatr yn dangos Y Chwarelwr, y ffilm siarad gyntaf erioed yn Gymraeg, yn dilyn bywyd chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog. Yna fe fydd ffilm ddogfen fer hefyd, ‘O’r Graig’ am y diwylliant llechi yng Ngogledd Cymru a sesiwn holi ac ateb gyda siaradwr gwadd arbennig.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda: 

Radha Patel, Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru / radha@filmhubwales.org  
Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu, ar 02920 311 067 lisa@filmhubwales.org   
Hana Lewis, Rheolwraig Strategol, ar 02920 353 740 / hana@filmhubwales.org   
Silvia Sheehan, Swyddog Cyfathrebu / silvia@filmhubwales.org

Am Ganolfan Ffilm Cymru 

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013, rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema cyffrous, gan gyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa. 

Rydym yn rhan o rwydwaith o wyth canolfan ledled y DU sy’n cael eu hariannu gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) sy’n ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), gyda Chapter wedi’i phenodi’n ‘Film Hub Lead Organisation’ (FHLO) yng Nghymru. Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

Gwefan, Twitter, Facebook Instagram

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI  

Gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol, mae FAN BFI yn ganolog i nod y BFI o sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi’i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema DU ehangach a mwy amrywiol i ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad DU gyfan, unigryw sydd yn cynnwys wyth o ganolfannau a reolir gan gyrff a lleoliadau ffilm amlwg wedi’u lleoli’n strategol o amgylch y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Swyddogion Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o’r canolfannau yn Lloegr, gyda chenhadaeth o ddarganfod a chefnogi.awduron, cyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

Canolfannau Ffilm FAN BFI:  

  • Film Hub Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham mewn partneriaeth gyda Flatpack o Brimingham 
  • Film Hub North dan gyd arweinyddiaeth Showroom Workstation, Sheffield, a HOME Manchester  
  • Film Hub South East dan arwieniad y Swyddfa Sinema Annibynnol  
  • Film Hub South West dan arweiniad Watershed ym Mryste 
  • Film Hub Scotland dan arweiniad Glasgow Film Theatre  
  • Film Hub Northern Ireland dan arweiniad Queen’s University Belfast  
  • Canolfan Ffilm Cymru dan arweiniad Chapter yng Nghaerdydd 
  • Film Hub London dan arweiniad Film London 

Gwefan

Am BFI

Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy: 

  • Cefnogi creadigrwydd a chwilio am y genhedlaeth nesaf o adroddwyr stori yn y DU 
  • Tyfu a gofalu am Archif Cenedlaethol BFI, yr archif ffilm a theledu mwyaf yn y byd 
  • Cynnig yr amrediad ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a’n gwyliau – ar-lein ac mewn lleoliadau 
  • Defnyddio ei gwybodaeth i addygsu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd 
  • Gweithio gyda’r Llywodraeth a diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU 
  • Wedi’i sefydlu ym 1933, mae BFI yn elusen gofrestredig wedi’i llywodraethu gan Siarter Brenhinol.
    Caiff Bwrdd Llywodraethwyr y BFI ei gadeirio gan Tim Richards.

Am Chapter 

Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd. 

Gwefan, Facebook, Twitter 

Am Cymru Greadigol

Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws y sectorau Sgrin, Digidol, Cerddoriaeth a Chyhoeddi, gan leoli Cymru fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu.
Gwefan, Twitter

^
CY