Swydd Wag: Swyddog Marchnata ac Allgymorth

Diben y Swydd
Cefnogi’r Ganolfan a’i haelodau i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer sinema annibynnol Brydeinig a rhyngwladol, a hynny ledled Cymru, drwy waith marchnata ac allgymorth. Mae hyn yn cynnwys prosiect 'spotlight' penodol yng Ngogledd Cymru a marchnata B i B o gyfleoedd i aelodaeth y Ganolfan.

Mae ffurflenni cais a disgrifiad swydd ar gael i’w lawrlwytho isod. Ni allwn dderbyn CVs. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses o wneud cais cysylltwch os gwelwch yn dda gyda apply@chapter.org

Ni fyddwn yn gallu cyfarfod gydag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.

Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 8 Mai, 10am
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Mawrth 14 Mai unai yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.

Llenwch ffurflen Cyfle Cyfartal a chyflwyno cyn y dyddiad cau yma.

^
CY