Ffilmiau Gwyrdd ar y Sgrin Fawr: Rhaglennu ar gyfer ein Planed 2020

© The Last Safari - AJKAK Moving Pictures, 2040 - Together Films, Honeyland - Dogwoof, Embrace the Serpent - Pecadillo Pictures, Crannog - Scot Doc Institute, Biggest Little Farm - Parkland Pictures, Hands On - Eva Cvijanovic
Mae’r amrywiaeth o fywyd ar ein planed, o ficrobau i lewod, planhigion i bobl, yn helaeth, ac mae’r cyfan mewn perygl.

Yr argyfwng hinsawdd yw prif fater ein hoes. Sut allwn ni ddechrau gwneud gwahaniaeth?

Mae ffilm yn arf bwerus sy’n ein caniatáu ni i gyfathrebu ac ysgogi pobl i weithredu. Gyda phandemig Covid-19 wedi cysgodi mudiadau amgylcheddol eleni, mae sinema’n rhoi’r cyfle i ni ailgysylltu â byd natur ar ôl cyfnod o ynysu.

Gan fod chynaliadwyedd amgylcheddol hefyd yn rhan o feini prawf cyllid BFI FAN, rydyn ni wedi creu rhestr o ffilmiau sy’n archwilio bob agwedd o’r pwnc. O ffermio cynaliadwy, i antur ôl-apocalyptaidd, nod y rhestr yw cefnogi’ch rhaglen wrth i chi ailagor.

Detholiad yn unig sydd yn y pecyn hwn. Cliciwch yma i weld rhestr fanwl.

^
CY