9ed 08 Medi 2021
Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) wedi lansio cyfres newydd o gyfweliadau, podlediadau a rhagor, wedi’u dylunio i ddathlu ffilmiau Cymreig gyda chysylltiadau Cymreig.
Y cyntaf i ymddangos ydy cyfweliadau gyda doniau y tu ôl i’r ffilmiau newydd Censor a The Toll. Mae’r Stori Gyflawn, sydd yn rhan o linyn Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru, yn gweithio mewn cydweithrediad gyda gwneuthurwyr a dosbarthwyr ffilmiau i dynnu sylw at y straeon y tu ôl i’r sgrin wrth iddyn nhw gyrraedd gwyliau a sinemau.
Wrth i leoliadau annibynnol barhau i adfer o’r pandemig COVID-19, y nod ydy hybu proffil ffilmiau Cymreig ac annog cynulleidfaoedd i ddychwelyd i’r sinema.
Dywedodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:
“Credwn y dylai ffilmiau Cymreig gael eu cydnabod yn fyd-eang a’r lle gorau i’w gweld ydy yn ein sinemau neu wyliau lleol. Rydym yn edrych ar beth mae ‘Cymreictod’ yn ei olygu i gynulleidfaoedd drwy edrych y tu ô i’r straeon y tu ôl i’r sgrin, o brofiadau rhaglenwyr sinema, i Gyfarwyddwragedd a thu hwnt. Mae’n hanfodol bod ffilmiau annibynnol gyda chysylltiadau Cymreig yn weledol, i wneud y mwyaf o fuddsoddiad i’r sector sgrin, i sicrhau bod lleisiau cudd yn cael eiu clywed a hefyd datblygu canfyddiad rhyngwladol o Gymru’.
Mae’r Stori Gyflawn hefyd yn anelu at gefnogi ac ysbrydoli talent Cymreig, hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru, helpu i gau’r bwlch sgiliau nid yn unig mewn cynhyrchu, mewn marchnata ffilmiau, gohebiaeth, rhaglennu a gwerthiant – sydd yr un mor hanfodol i roi pob cyfle i ffilmiau Cymreig lwyddo
Fel y mae Cyfarwyddwr Censor, Prano Bailey-Bond, a anwyd yn Aberystwyth, yn esbonio:
"Bu’r gefnogaeth a dderbyniais o Gymru wrth wneud a rhyddhau fy ffilm gyntaf, gan gyrff, sinemau a chynulleidfaoedd, yn enfawr ac yn hanfodol. Mae’n gyfnod annhygoel o gyffrous i grewyr Cymreig ac mae’n wych bod Canolfan Ffilm Cymru yn rhoi’r sylw inni. Gobeithio y bydd yn amlygu ymhellach y potensial creadigol sydd yn bodoli yn y wlad ac yn rhoi hyd yn oed rhagor i gynulleidfoaedd yng Nghymru i’w fwynhau ac i ymfalchïo ynddo."
Dywedodd awdur sgrin The Toll, Matt Redd o Hwlffordd:
"Mae Cymru yn gyflym yn datblygu i fod yn ganolfan byd enwog ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu, ond fel gwneuthurwr ffilm a anwyd ac sydd yn byw yng Nghymru, rwyf yn fwyaf cyffrous am y cyfle i adrodd straeon Cymreig sydd yn benodol i fywyd Cymru. Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn cynnig platfform gwych i straeon Cymru gysylltu gyda chynulleidfoaedd lleol, gan adeiladu momentwm yn nhaith ffilm i gynulleidfaoedd ar draws y byd."
Dywedodd Ben Luxford, Pennaeth Cynulleidfaoedd DU yn BFI:
“Fe fydd Y Stori Gyflawn Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig darlun gwych i gynulleidfaoedd o ffilmiau a gwneuthurwyr ffilmiau Cymreig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol, mae’r BFI yn cenfogi y gyfres gyfan a hefyd yn helpu i gyllido gwneud Censor a The Toll.”
Fe fydd arddangoswyr yn gallu cael mynediad i asedau a grerwyd drwy Y Stori Gyflawn i gychwyn sgyrsiau gyda’u cynulleidfaoedd am ffilmiau Cymreig a chreu disgwyliad am ffilmiau newydd. Fel rhan o’r rhaglen Gwnaethpwyd yng Nghymru, mae llu o weithgareddau eraill drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys rhagddangosiadau ar gyfer rhaglenwyr ffilm i fod yng nghatalog ffilmiau FHW sydd â dros 100 o ffilmiau a ffilmiau byr gyda chysylltiadau Cymreig .
Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn bodoli diolch i gyllid y Cymru Greadigol a Loteri Cenedlaethol gan y Sefydliad Ffilmiau Prydeinig (BFI) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol Prydeinig a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn drwy Chapter fel Corff Arweinol Canolfan Ffilm.
Mae’r Loteri Cenedlaetholo yn codi £36 miliwn yr wythnos i achosion da ar draws y DU.
Gall cynulleidfaoedd ddilyn newyddion diweddaraf Gwnaethpwyd yng Nghymru ar wefan FHW neu drwy via @filmhubwales arFacebook, Twitter ac Instagram.
Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma
-DIWEDD-